![]() Protestiwr ym Melbourne yn galw am newid cyfiawn | |
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad gwleidyddol ![]() |
---|
Fframwaith a ddatblygwyd gan undebau llafur yw Trawsnewid Cyfiawn neu Gyfnod pontio Cyflawn (Saesneg: Just Transition), sy'n cynnwys dulliau o ymyrryd yn gymdeithasol er mwyn sicrhau hawliau a bywoliaeth gweithwyr drwy orfodi economïau i gynhyrchu mewn ffordd cynaliadwy, yn bennaf o fewn y frwydr i atal newid hinsawdd, ac amddiffyn bioamrywiaeth.[1] Mae wedi cael ei gymeradwyo'n rhyngwladol gan lywodraethau mewn gwahanol feysydd e.e. Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) yng Nghytundeb Paris, a Chynhadledd Hinsawdd Katowice (COP24) a'r Undeb Ewropeaidd.[2][3][4]
Maer gair 'trawsnewid' yma'n cyfeirio at y newid o fyd llawn C02 i fyd gwyrdd, cyfnod anodd i weithwyr, a all olygu fod colli swyddi yn anhepgor. Dyma gyfnod pontio o'r hen fyd llawn danwydd ffosil i ynni gwyrdd. Mae'r gair 'cyfiawn' yn cyfeirio at gyfiawnder i'r gweithwyr hyn.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search